PWY YDYN NI...?
Mae Cyngor Canolbarth Cymru yn elusen gofrestredig (Rhif 1111040) ac yn aelod o AdviceUK, sefydliad mwyaf y DU ar gyfer gwasanaethau cyngor annibynnol. Am dros 30 mlynedd rydym wedi datblygu enw dihafal yn ardal Bro Ddyfi a thrwy Ganolbarth Cymru am ansawdd ein gwasanaeth ac ymroddiad ein staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr. Bob blwyddyn rydyn yn delio a thros 2,200 o ymholiadau a beth bynnag fo’r broblem, bydd help llaw ar gael gan sefydliad gofalgar.
...A RHAI O'R PETHAU RYDYM YN EU GWNEUD
- Rydym yn darparu Gwasanaeth Cynghori Cyffredinol ar gyfer amrywiaeth eang o broblemau
- Rydym yn darparu cyngor arbenigol mewn dyled a budd-daliadau lles, gan gynnal Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol gyda Marc Ansawdd Arbenigol yn y ddwy ardal.
- Mae ein Gweithiwr Achos mewn Cyngor Ariannol yn aelod o Sefydliad y Cynghorwyr Ariannol® ac y mae hi a chynghorydd gwirfoddol yn Gyfryngwyr Achrededig i Orchmynion Rhyddhau o Ddyled (DRO)
- Rydym yn cynnal tair sesiwn taro-mewn (dim angen apwyntiad) yn wythnosol, sy'n golygu y gallwch gael cyngor pan rydych ei angen
- Ni yw'r unig rai yn yr ardal sy'n cynnig gwasanaeth cyngor yn y cartref, a phan fo'n gwbl angenrheidiol gwnawn ymweliadau ysbyty
- Rydym yn cynnig gwasanaeth cynghori ar y ffon, trwy'r post ac ar e-bost.
- Ni yw'r unig ganolfan cynghori yn yr ardal sy'n cynrychioli ein cleientiaid mewn Tribiwnlys Haen Gyntaf
Gadewch i ni eich helpu
CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM