Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ
Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk
Roedd y rhewgell brynodd NP wedi torri lawr yn fuan ar ôl ei phrynu. Cynigiodd y gwerthwr ei thrwsio’n unig, ond fe drefnon ni i NP dderbyn rhewgell newydd. Llwyddwyd i drefnu iddo dderbyn iawndal am y bwyd a ddifethwyd hefyd.
Ddaru chi brynu rhywbeth yn ddiweddar a darganfod, wedi i chi gyrraedd gartref, ei fod wedi torri? Ydych chi wedi talu am wasanaethau nad ydych wedi’u derbyn? Gallwn eich helpu a’ch cynghori efo: problemau efo nwyddau, problemau efo gwasanaethau, efo cerbydau, anghydfod efo gwerthwyr, trafod efo masnachwyr, gwybodaeth a help efo cytundebau, a help efo cwynion. Efallai eich bod wedi cael problemau efo costau triniaeth iechyd, neu eich bod angen cwyno am safon gofal. Gallwn eich helpu hefyd os ydych yn meddwl eich bod wedi talu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) heb i chi wybod na rhoi caniatâd - a gallwch fod yn sicr y byddai ein cymorth ni, yn wahanol i gwmnïau cyfreithiol a chwmnïau eraill sy’n hysbysebu ar y teledu ac yn y wasg, yn ogystal â’r rhai sy’n cysylltu â chi dros y ffôn yn hollol am ddim.
CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM