Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ
Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk
Os ydych yn cael problemau ariannol, ni yw’r bobl i’ch helpu. Mae ein Cynghorwyr Ariannol (sy’n Aelodau neu yn Aelodau Achrededig o Sefydliad y Cynghorwyr Ariannol, ac o’r herwydd yn dilyn Cod Ymarfer) wedi derbyn hyfforddiant uchel ac yn brofiadol mewn delio gyda’r problemau a’r rhwystrau ddaw i’ch cwrdd. A chofiwch, pan fyddwch yn derbyn y cyngor gorau posibl, bydd y cyngor hwnnw yn ddiduedd, cyfrinachol ac AM DDIM. Felly...
Gallwn eich helpu i drefnu’ch arian a’ch cyllideb fel nad ewch i ddyled trwy eich helpu i weld lle mae’ch arian yn mynd a sut y gallwch wario llai.
Gallwn eich helpu i ddod allan o ddyled (ac aros allan o ddyled) efo Cynllun Rheoli Dyled sy’n golygu y gallwn chwyddo eich incwm a thrafod efo’ch credydwyr fel y gallwch dalu’ch dyledion dros gyfnod o amser a pharhau i fyw bywyd rhesymol. Gallwn eich cynghori hefyd ar Drefniadau Gwirfoddol Unigol a hefyd os aiff hi i’r pen, gallwn fod o gymorth i chi gael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)). (Dewis arall yw DRO yn hytrach na methdaliad, a all eich helpu i ddelio gyda rhai mathau o ddyledion os: a): nad ydych yn berchen ar eich tŷ; b) nad oes gennych lawer o incwm dros ben; c) nad oes gennych lawer o siawns i wella’ch sefyllfa ariannol am 12 mis o leiaf).
Rydym wedi llwyddo i drafod gyda chredydwyr niferus HH, a rhoi iddo gynllun cyllido a fu’n gymorth iddo dalu’u ddyledion dros gyfnod o amser
Gyda’n cymorth ni, llwyddodd mam sengl ME i dalu eu dyledion i gyd yn ogystal â chael Budd-dal Tai a Gostyngiadau Treth Cyngor.
PWYSIG!
Mae ein cynghorwyr angen cymaint o wybodaeth â phosibl, felly, a fyddech cystal â dod â’r gwaith papur angenrheidiol sy’n berthnasol i’r mater i gyd efo chi. Os na wnewch hynny gallai gymryd llawer yn hwy i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae’n hynod o bwysig os nad oes gennych ond amser byr i weithredu.
CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM